Scroll down for Welsh
As part of Bike Week 2008 (14th to 22nd June) cyclists from all over Wales and beyond will converge on the Senedd in Cardiff for a rally to promote environmental sustainability. Youth, cycling and environmental groups in mid-Wales have taken the initiative to promote the ride, the ‘Carbon Cycle’. This growing network includes the Welsh Youth Forum on Sustainable Development, Gwerin y Coed (The Woodcraft Folk), Scouts, and Grŵp Beic Aberystwyth. In mid-Wales the Carbon Cycle will start in Machynlleth on Wednesday 18th June and finish in Cardiff on Saturday 21st. The ride of more than 140 miles will take four days, stopping off in Rhayader, Brecon and Merthyr Tydfil.
In the spirit of Bike Week, the ride aims to promote cycling as a healthy and sustainable means of transport that is also seriously fun! The goal is to involve as many cyclists as possible. Riders will lobby Government to commit to investing more resources to promote cycling as an everyday means of transport rather than just a leisure or sports activity. En route, cyclists will stop-off to find out about local environmental campaigns. In Merthyr Tydfil, for example, cyclists from mid-Wales will meet Residents Against Ffos-y-Frân, the environmentally disastrous open-cast coal mine. Riders also intend linking up with peer groups along the way to discuss promoting cycling as a viable way of getting to work and school.
Speakers at the Senned include Gordon James of Friends of the Earth Cymru and Plaid Cymru AM Leanne Wood. Youth groups will hand Leanne Wood a petition asking for more cycle lanes and provision for bikes on public transport. They hope Leanne will take their concerns and aspirations to the heart of government in Wales.
To illustrate the need behind their petition, the mid-Wales cyclists looked into getting home from Cardiff by train. Of course, poor transport and environmental planning means there is no direct line! The train runs from Cardiff to Hereford and then Shrewsbury before connecting with a train to Aberystwyth via Machynlleth. Train company policy is that cycles are carried free of charge on all services subject to space being available. The space on trains into Aberystwyth is limited to just two bikes, however. To add insult to injury for the fifty-plus young cyclists needing to get home for a well deserved rest, on Saturday 21st June the train between Hereford and Shrewsbury has been replaced by a coach service on which no cycles at all can be accommodated.
Fel rhan o Wythnos y Beic (o’r 14eg hyd y 22ain o Fehefin) bydd beicwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn ymlwybro tua’r Senedd yng Nghaerdydd. Yno, byddent yn cynnal rali i hyrwyddo cynaladwyedd amgylcheddol. Mae grwpiau ieuenctid, grwpiau beicio a grwpiau amgylcheddol wedi bod yn flaengar wrth drefnu’r Gylchred Garbon hon. Ymysg y grwpiau yw Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaladwy, Gwerin y Coed, y Sgowtiaid, a Grŵp Beic Aberystwyth, ac mae’r rhwydwaith o gefnogwyr wrthi’n tyfu. Bydd y Daith yn cychwyn ym Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru ar ddydd Mercher 18fed o Fehefin ac yn diweddu yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn yr 21ain pellter o dros 225 cilomedr (140 milltir). Bydd y Daith yn cymryd pedwar diwrnod, gan alw yn Rhaeadr Gwy, Aberhonddu a Merthyr Tudful.
Yn naws Wythnos y Beic, amcan y Daith yw hyrwyddo beicio, ffordd iach a chynaladwy o deithio sy’n llawer o hwyl hefyd! Gobeithiem y bydd cymaint o feicwyr â phosib yn cymryd rhan. Byddem yn galw ar y Llywodraeth iddynt addo buddsoddi mwy o adnoddau er mwyn hyrwyddo beicio fel ffordd o deithio pob dydd (yn hytrach na weithgaredd hamdden neu chwaraeon). Ar hyd y daith, bydd beicwyr yn ymweld ag ymgyrchoedd amgylcheddol lleol. Ym Merthyr Tudful, er enghraifft, byddent yn cyfarfod â thrigolion (RAFF) sy’n gwrthwynebu gwaith glo brig Ffos-y-Frân. Mae’r beicwyr yn bwriadu cyfarfod â’u cyfoedion ar hyd y daith hefyd, er mwyn trafod beicio fel ffordd ymarferol o gyrraedd gwaith neu ysgol.
Mae’r beicwyr yn trefnu deiseb sy’n galw am ragor o lonydd beicio a gwell wasanaeth ar gyfer beiciau ar drafnidiaeth gyhoeddus, a byddent yn ei gyflwyno i Leanne Wood AC. Dyma enghraifft o’r angen am ddeiseb o’r fath: ymchwiliodd y beicwyr o’r Canolbarth a fyddai’n bosib dychwelyd o Gaerdydd ar y trên. Yn niffyg cynlluniau trafnidiaeth amgylcheddol hirdymor, nid oes rheilffordd uniongyrchol! Mae’r trên yn mynd o Gaerdydd i Henffordd ac yna i’r Amwythig, lle mae’n rhaid newid i drên sy’n mynd i Aberystwyth trwy Fachynlleth. Polisi’r cwmni trenau yw bod beiciau’n cael eu cludo’n rhad ac am ddim ar unrhyw drên, cyn belled bod lle ar gael. Ond mae cyfyngiad o ddau feic yn unig ar drenau i Aberystwyth, ac mae newyddion gwaeth i’r hanner can beiciwr ifanc a mwy bydd wedi llwyr haeddu mynd adref i orffwyso. Ar ddydd Sadwrn, Mehefin 21ain, bydd bws yn cymryd lle’r trên rhwng Henffordd a’r Amwythig, a does dim lle o gwbl ar gyfer beiciau arno.
Further information:
Anna Bullen lbb00@aber.ac.uk Tel: 01970610095 or 07976918270
Welsh Youth Forum on Sustainable Development http://www.wyfsd.org/
Sign petition http://www.wyfsd.org/cycle/index2.php
Grŵp Beic Aberystwyth http://www.grwpbeic.org.uk/
Bike Week 2008 http://www.bikeweek.org.uk/
RAFF www.stopffosyfran.co.uk